R Gordon Roberts Laurie & Co
Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co
Meysydd Arbenigol: Atwrneiaeth Arhosol a Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus; Trawsgludo; Ewyllysiau, Profiant ac Ymddiriedolaethau; Landlord a Thenant; Masnach
Rhif Ffôn: 01407 762204; 01407 830400
Cyfeiriad E-bost: Manon@treh.co.uk
Swyddfeydd y mynychir: Caergybi
Astudiodd Manon ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ble y graddiodd yn y Gyfraith a Chymraeg. Wedyn hynny mynychodd Goleg y Gyfraith yng Nghaer i gwblhau'r cwrs galwedigaethol ymarfer cyfraith. Cwblhaodd ei chytundeb hyfforddi dwy flynedd gyda chwmni yng Nghaergybi gan gymhwyso fel Cyfreithwraig yn 2008 gan aros gyda’r cwmni hwnnw am saith mlynedd bellach.
Dros y blynyddoedd, profodd Manon nifer o feysydd y gyfraith gan gynnwys Trosedd, Teulu a Phriodas, Ewyllysiau ac Ymddiriedolaethau, Profiant a Gweinyddiad Ystadau, Ymgyfreithiad Sifil, Trawsgludo Preswyl a Masnachol, Pwerau Atwrneiaeth Arhosol, Landlord a Thenant, a Gofal yn ogystal â mynychu Llys y Goron a’r Uchel Lys â Bargyfreithiwr, a Llys Sirol i eirioli. Penderfynodd Manon arbenigo a chanolbwyntio ar Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau, Profiant a Gweinyddiad Ystadau, Trawsgludo Preswyl a Masnachol, a gwaith Landlord a Thenant.
Ymunodd Manon â Chwmni T. R. Evans, Hughes ym mis Tachwedd 2015 i weithio yn bennaf ar faterion Ewyllysiau, Profiant, Gweinyddu Ystadau a Thrawsgludo Preswyl. Mae Manon wedi ei lleoli yn ein swyddfa yng Nghaergybi. Cymraes iaith gyntaf yw Manon, a gall gynnig gwasanaeth dwyieithog i’w chleientiaid.
Mae Manon yn Llywodraethwr yn ei ysgol gynradd leol ac yn athrawes Ysgol Sul. Manon iyw Cyfreithiwr Anrhydeddus Cyngor Ar Bopeth, Môn ac mae yn aelod o Adran Cleient Preifat Cymdeithas y Gyfraith, Cynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Gyfraith ac aelod cysylltiol o grŵp Cyfreithwyr ar gyfer yr Henoed. Yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau treulio amser gyda'i theulu ifanc a’i ffrindiau.