R Gordon Roberts Laurie & Co
Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co
Efallai eich bod am sicrhau y gallai aelodau agos o’r teulu neu ffrindiau eich cynorthwyo drwy wneud penderfyniadau pwysig ar eich rhan os yw’ch iechyd yn dirywio yn y dyfodol. Drwy ddewis creu Pŵer Atwrniaeth Arhosol, gallwch benderfynu pwy all gamu mewn ar eich rhan yn y cyfnodau anodd hyn a rhoi’r awdurdod iddynt ddelio gyda’ch materion pan fo’r angen.
Os ydych yn bryderus ynglŷn â ffrind neu aelod o deulu, sydd â’u hiechyd wedi dirywio’n barod, gallwn gynghori a chynorthwyo gyda cheisiadau i’r Llys Gwarchodol gan wneud ein gorau i ddatrys anawsterau mewn modd sensitive ac ystyrlon.