R Gordon Roberts Laurie & Co
Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co
Mae gennym dîm ymgyfreitha cryf a phrofiadol iawn, sydd yn gallu eich cynorthwyo gydag amrediad eang o faterion sifil gan gynnwys:-
Os yw eich hawliad yn un bach neu fawr, fe wnawn ein gorau i gael canlyniad llwyddiannus i chi. Yr ydym bob tro’n ystyried datrysiadau ymarferol ac yn ystyried opsiynau adeiladol a chost-effeithiol, yn hytrach nac ymgyfreitha pan fo hynny yn bosib.
Mi fydd ein ffioedd yn cael eu hamlinellu yn eglur i chi ar ddechrau pob achos, a byddant yn cael eu hadolygu yn barhaus drwy gydol y mater. Mae gennym gyfreithwyr gyda lefelau gwahanol o brofiad ac felly gallwn gynnig ffioedd cystadleuol i gleientiaid er mwyn gweddu i’r lefel o brofiad sydd angen. Yn ddibynnol ar y math o fater, gallwn mewn rai amgylchiadau ystyried cytundebau “dim ennill, dim ffi” gyda’n cleientiaid.