R Gordon Roberts Laurie & Co
Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co
Cwmni cyfreithiol wedi ei leoli ar Ynys Môn yw R. Gordon Roberts Laurie & Co. Mae’r cwmni yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth cyfeillgar, proffesiynol ac effeithiol i’n holl gleientiaid.
Yr ydym yn gwneud ein gorau i wrando ar eich pryderon, gan ystyried eich anghenion bob tro a chanolbwyntio ar y canlyniad gorau i chi.
Mae ein prif swyddfa wedi ei lleoli yn Llangefni ac mae gennym hefyd gangen brysur iawn ym Miwmares. Yn 2015, fe gyfunodd y cwmni gyda chwmni sefydlog TR Evans Hughes & Co ac mae gennym bellach swyddfa ychwanegol yng Nghaergybi. Mi fydd y canghen yng Nghaergybi yn parhau i fasnachu fel TR Evans Hughes & Co ac mae’r cyfuniad hwn o fudd i’n cleientiaid gan ein bod bellach yn medru darparu arbenigaeth gyfreithiol mewn mwy o leoliadau o amgylch Ynys Môn.
Yr ydym hefyd yn deall nad yw hi’n bosib i rai cleientiaid ymweld ag un o’n swyddfeydd am wahanol resymau. Mae ein cyfreithwyr felly yn hapus i drefnu i ymweld â chleientiaid gartref pan fo’r angen.
Mae pob swyddfa hefyd hefo cyfeiriad e-bost ei hun:
Llangefni: reception@rgrl.co.uk
Caergybi: office@treh.co.uk
Biwmares: Beaumaris@rgrl.co.uk