R Gordon Roberts Laurie & Co
Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co
Gallwn gynorthwyo a chynghori Landlordiaid a Thenantiaid. Yn ddelfrydol, dylid cael tenantiaeth ar sail gadarn a chryf. Gallwn gynghori Landlordiaid a Thenantiaid ynglŷn â chytundebau tenantiaeth a gallwn ddrafftio cytundebau ar eich cyfer.
Gallwn hefyd eich cynghori ynglŷn â’r camau angenrheidiol i’w dilyn wrth ddechrau tenantiaeth newydd, a’r ffordd orau i ddelio gyda sefyllfaoedd pan na fo rhai camau wedi eu dilyn.
Os oes problemau wedi codi yn ystod tenantiaeth, gallwn roi cyngor ar y modd gorau i ddatrys y sefyllfa a’r camau i’w dilyn os oes angen troi’r tenant allan o’r eiddo. Gall ein cyfreithwyr baratoi rhybuddion, ceisiadau i’r Llys a’ch cynrychioli mewn unrhyw wrandawiad Llys.