R Gordon Roberts Laurie & Co
Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co
Mae gan R. Gordon Roberts Laurie & Co flynyddoedd helaeth o brofiad o ddelio gyda phrynu a gwerthu eiddo preswyl. Cewch wasanaeth personol gan gyfreithiwr, nid ydym yn dibynnu ar weithwyr achos i brosesu’r achos. Yn R Gordon Roberts Laurie & Co, yr ydym yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth personol gan ddefnyddio’r meddalwedd Trawsgludo fwyaf modern er mwyn sicrhau fod y broses o brynu a gwerthu eich cartref mor ddi-staen â phosib.
Mae ein harbenigedd yn y maes hwn o’r Gyfraith a’r ansawdd a’r safon uchel yr ydym yn ymfalchïo ynddo yn cael ei adlewyrchu yn ein haelodaeth o Gynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Gyfraith. R. Gordon Roberts Laurie & Co oedd y cwmni cyfreithiol cyntaf yn Ynys Mon a Gwynedd i gael y gydnabyddiaeth hon.
Yr ydym yn aelodau o baneli o nifer o fanciau a chymdeithasau adeiladu sydd yn aml yn hwyluso ein gwasanaethau mewn Trawsgludiadau.
Mae gennym hefyd arbenigedd eang mewn eiddo masnachol a gallwn ddrafftio a chynghori ar brydlesi busnes cymhleth pan fo’r angen. Gan ein bod wedi ein lleoli mewn ardal wledig, mae gennym hefyd brofiad eang o ddelio gyda thrawsgludiadau sy’n ymwneud â ffermydd, tir amaethyddol a thenantiaeth amaethyddol.