R Gordon Roberts Laurie & Co
Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co
Mae cyfraith Cyflogaeth yn esblygu’n gyson. Os ydych yn gyflogwr sydd angen cyngor ar sut y gall eich busnes ymdopi gyda’r holl newidiadau hyn yn effeithiol ac effeithlon, mi fydd ein cyfreithwyr yn hapus i’ch cynorthwyo.
Gallwn ddrafftio contractau, polisïau a gweithdrefnau sydd yn gweddu at eich busnes, ac sydd hefyd yn cyd-fynd gyda’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf.
Os oes anghydfod wedi codi, gall ein cyfreithwyr cyflogaeth gynghori a chynrychioli cyflogwyr a chyflogai. Os oes cyflogaeth yn cael ei derfynu, mae gennym brofiad o gynrychioli cleientiaid gyda ‘Chytundebau Setliad’ ac achosion Tribiwnlys Cyflogaeth.