R Gordon Roberts Laurie & Co
Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co
Mae R Gordon Roberts Laurie and Co yn deall y gall perthynas sy’n dod i’w diwedd olygu cyfnod emosiynol ac anodd tu hwnt. Ein nod yw arwain ein cleientiaid drwy’r broses mewn modd sensitif a gyda chyn lleied o straen a phosib, gan hefyd ganolbwyntio ar beth sydd orau i’r cleient.
Pan fo perthynas yn dod i’w ddiwedd, yn aml bydd ansicrwydd ynglŷn â hawliau cyfreithiol yr unigolion. Gall ein tîm Cyfraith Deulu gynorthwyo gydag anghydfod am dai, darparu ar gyfer plant a hefyd eich cynghori ynglŷn â’r opsiynau cyfreithiol sydd ar gael.
Yn aml, datrys y cyllid ar ddiwedd perthynas a delio gydag unrhyw anghydfod am dai yw rhan fwyaf heriol y broses. Yr ydym yn gwneud ein gorau i geisio cynnal trafodaethau adeiladol gyda nod gadarn o gael y canlyniad gorau i’n cleientiaid.
Yr ydym hefyd yn delio gyda dod â phartneriaethau sifil i’w diwedd.