RGRL logo

R Gordon Roberts Laurie & Co

Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co

RGRL logo

Toggle Menu

 

 

 

 

 

 

 

 

Gofal Plant

Fel cwmni, yr ydym yn gwneud ein gorau i ddyfod at bob achos gyda dealltwriaeth sensitif sydd yn dod o brofiad gwerthfawr o flynyddoedd o arbenigo mewn Cyfraith Gofal Plant. Mae’n bwysig i gleientiaid gael eu cynrychioli gan rai sydd yn deall sut y gall y gyfraith gael effaith arnoch chi’n bersonol, ynghyd ac aelodau eraill o’ch teulu.

Mae gennym brofiad yn cynghori a chynrychioli rhieni, aelodau eraill o’r teulu, plant a Gwarchodwyr Plant ym mhob math o achosion Cyfraith Breifat a Chyfraith Gyhoeddus. Gallwn eich cynorthwyo gyda phob math o geisiadau sy’n ymwneud gyda phlant gan gynnwys ceisiadau Cyswllt neu Breswyl (sydd bellach yn cael eu galw’n Orchmynion Trefniant Plant), Gorchmynion Amddiffyn Brys, Gorchmynion Gofal neu pan fydd rhieni yn gwneud cais ar gyfer cyswllt gyda phlant sydd mewn gofal a rhyddhau Gorchmynion Gofal. Mae’n eithriadol o bwysig i gael cynrychiolaeth gyfreithiol dda mewn materion cyn bwysiced â hyn, ac mae gennym gyfreithwyr fyddai yn hapus i’ch cynorthwyo.

Yr ydym hefyd yn hapus i wneud cais am arian cyhoeddus ar eich rhan pryd bynnag fo hynny’n bosib.

Ein Cyfreithwyr Gofal Plant

John Rhys Cwyfan Hughes

John Rhys Cwyfan Hughes

Cyfarwyddwr / Cyfreithiwr

Owain Alaw Jones

Owain Alaw Jones

Cyfarwyddwr Cysylltiol

Jules

Niamh O'Toole

Cyfreithwr