R Gordon Roberts Laurie & Co
Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co
Er bod hwn yn bwnc anodd i nifer o bobl ei ystyried, mae’n ddoeth ystyried pa effaith y caiff eich marwolaeth ar eich teulu a’ch ffrindiau. Gallwn eich cynorthwyo i wneud Ewyllys ddoeth a syml fydd yn darparu ar gyfer eich anwyliaid.
Yn R. Gordon Roberts Laurie & Co, yr ydym yn cymryd amser i nodi eich amgylchiadau personol ac i addasu’n cyngor i fod yn berthnasol i chi. Gallwn hefyd eich cynghori ar faterion mwy cymhleth megis cynllunio ar gyfer Treth Etifeddiaeth, Ymddiriedolaethau a rhoddion i elusennau.
Os oes aelod o’ch teulu wedi marw’n ddiweddar, gallwn eich cynorthwyo gyda’r holl gamau cyfreithiol angenrheidiol. Mewn rhai ystadau, gellir cael cyfrifiadau pwysig mewn materion sydd yn codi o ganlyniad i farwolaeth, megis cyfrifiadau Etifeddiaeth Treth pan ac os fydd angen, yn ogystal â gwneud ceisiadau am eithriadau a rhyddad o dreth. Gallwn hefyd gynorthwyo gyda throsglwyddo asedau a sicrhau fod yr asedau yn cael eu delio hefo yn gywir.
Pan fo rhywun wedi marw heb Ewyllys, gallwn gynghori perthnasau ynglŷn â rheolau diewyllys a sut y dylir dosbarthu eiddo’r aelod hwnnw o’r teulu sydd wedi marw.
Gallwn hefyd eich cynghori a’ch cynrychioli mewn sefyllfaoedd anodd pan fo marwolaeth perthynas wedi achosi anghydfod ynglŷn â’u heiddo. Gall rhai Ewyllysiau gael eu herio o dan rai amgylchiadau. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn ag ystâd, ein nod fyddai rhoi cyngor eglur a chyflawn i chi ar ddechrau’r mater a’ch cynrychioli os fydd achos Llys yn dod yn angenrheidiol.