R Gordon Roberts Laurie & Co
Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co
Meysydd Arbenigol: Ymgyfreithiad a Chyfraith Sifil; Niwed Personol, Landlord a Thenant, Dyledion a Gorfodaeth; Prynu a Gwerthu Eiddo Preswyl; Ewyllysiau, Profiant, Atwrneiaeth Arhosol a Cheisiadau i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Rhif Ffôn: 01248 722215
Cyfeiriad E-bost: huwgriffiths@rgrl.co.uk
Swyddfeydd y mynychir: Llangefni
Magwyd Huw ym Môn cyn troedio i Gaerdydd i astudio’r Gyfraith ble y gwnaeth hefyd gwblhau'r cwrs galwedigaethol LPC. Enillodd brofiad cyfreithiol drwy weithio i gwmnïau cenedlaethol mawr ac i gwmnïau llai'r stryd fawr cyn cael ei apwyntio yn Gyfreithiwr dan Hyfforddiant gyda RGRL yn 2007.
Cymhwysodd Huw fel Cyfreithiwr yn 2009 a gall ymgymryd â gwaith yn y meysydd canlynol: Ymgyfreithiad a Chyfraith Sifil; Niwed Personol; Landlord a Thenant; Dyledion a Gorfodaeth; Prynu a Gwerthu Eiddo Preswyl; Ewyllysiau, Profiant, Atwrneiaeth Arhosol a Cheisiadau i Swyddfa’r Gwarcheidwad.
Yn 2015 apwyntiwyd Huw fel Cyfarwyddwr yn y Cwmni.
Yn ei oriau hamdden mae Huw yn mwynhau treulio amser gyda'i deulu ac mae yn seiclwr brwd. Mae’n gefnogwr triw i dîm rygbi a phêl droed Cymru beth bynnag y canlyniad!