R Gordon Roberts Laurie & Co
Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co
Meysydd Arbenigol: Ysgariad a Gwahanu; Gofal Plant; Ewyllysiau, Profiant ac Ymddiriedolaethau
Rhif Ffôn: 01407 762204; 01407 830400; 01248 722215
Cyfeiriad E-bost: Owain@treh.co.uk
Graddiodd Owain gyda Gradd yn y Gyfraith o Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 2004. Wedi hynny mynychodd Goleg y Gyfraith yng Nghaer gan ennill Diploma Ôl-raddedig LPC yn 2006. Wedi cwblhau ei gytundeb hyfforddiant dwy flynedd yn llwyddiannus, derbyniwyd Owain fel Cyfreithiwr ar Restr y Cyfreithwyr yn 2008.
Mae Owain yn Gyfreithiwr Cynorthwyol sy’n gweithio rhan fwyaf ym maes gwaith teulu. Mae Owain yn ymdrin ag ystod eang o waith teulu gan gynnwys ysgariad, materion ariannol, anghydfod cyswllt plant ac achosion gofal. Mae Owain yn rheolaidd yn cynrychioli cleientiaid yn y Llys gerbron yr Ynadon, Barnwyr Rhanbarthol a’r Gylchdaith. Mae Owain hefyd yn ymgymryd â gwaith Ewyllysiau a Phrofiant.
Mae Owain yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf ac yn gallu cynorthwyo cleientiaid drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Yn ei amser hamdden mae Owain yn brysur gyda’i ddau blentyn ifanc ond yn ceisio chwarae pêl-droed 5 bob ochr unwaith yr wythnos. Mae Owain yn mwynhau coginio a gwylio pêl-droed a rygbi.