Gofal Plant

Yng nghwmni R Gordon Roberts Laurie & Cwmni, rydym yn ymdrin â phob achos gyda’r ddealltwriaeth sy’n deillio o brofiad helaeth gwerthfawr ym maes cyfraith Gofal Plant. Rydym yn cydnabod pa mor ddwys gall y gyfraith effeithio arnoch chi a’ch teulu, a dyna pam ei bod yn hanfodol i gael eich cynrychioli gan rai sy’n wirioneddol deall y materion cymhleth hyn.

Mae gan ein tîm brofiad eang o gynghori a chynrychioli rhieni, aelodau eraill o’r teulu, plant a Gwarcheidwaid Plant mewn achosion Cyfraith Preifat a Chyhoeddus. Gallwn eich cynorthwyo gyda phob math o geisiadau cyfraith deulu sy’n ymwneud â phlant, gan gynnwys:

  • Gorchmynion Trefniadau Plant (yn flaenorol Ceisiadau Cyswllt neu Breswylio)
  • Gorchmynion Diogelu Brys
  • Gorchmynion Gofal
  • Ceisiadau am gyswllt â phlant sydd mewn gofal
  • Diddymu Gorchmynion Gofal

Mae’n hanfodol cael cynrychiolaeth gyfreithiol gadarn mewn achosion mor bwysig, ac mae ein tîm o gyfreithwyr achrededig yma i ddarparu arweiniad arbenigol a chefnogol.

Rydym hefyd yn cynnig cymorth gyda gwneud cais am gyllid cyhoeddus ar eich rhan, lle bynnag y bo’n bosibl, gan sicrhau bod gennych fynediad at yr adnoddau sydd eu hangen i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i chi a’ch teulu.

Cyfreithwyr

John Rhys Cwyfan Hughes

John Rhys Cwyfan Hughes

Cyfarwyddwr / Cyfreithiwr

Secret Link