Adfer Dyledion

Gall adfer dyledion fod yn broses heriol sy’n cymryd amser, ond gyda’r cymorth cyfreithiol cywir, gallwch sicrhau bod eich buddiannau yn cael eu diogelu. Yng nghwmni R Gordon Roberts Laurie rydym yn cynnig ystod lawn o wasanaethau adfer dyledion i fusnesau ac unigolion fel ei gilydd.

P’un a ydych yn ceisio adfer anfoneb fach sydd heb ei thalu neu’n dilyn dyled fwy a  chymhleth, gallwn eich cynorthwyo ar bob cam o’r broses, gan ddarparu cyngor clir ac ymarferol. Bydd ein cyfreithwyr profiadol yn eich helpu i lywio’r gweithdrefnau cyfreithiol yn effeithlon i adfer yr arian sy’n ddyledus i chi, gan leihau’r effaith andwyol i’ch busnes neu eich cyllid personol.

Rydym yn cynnig cymorth gyda:

  • Cyngor cyn gweithredu’n gyfreithiol – Cyn cymryd camau ffurfiol, gallwn archwilio dulliau amgen o adfer y ddyled, gan gynnwys trafodaethau a chytundebau setlo. 

  • Cyhoeddi Dyfarniadau Llys Sirol (CCJs) – Os yw dyled yn parhau heb ei thalu, gallwn eich cynorthwyo i wneud cais am CCJ i ffurfioli’r ddyled a sicrhau opsiynau gorfodi. 

  • Camau gorfodi – Gallwn roi cyngor ar fesurau gorfodi ac, os yn briodol, eu cychwyn, mesurau fel  atodiad enillion, gorchmynion tâl, neu atafaelu asedau drwy feili. 

  • Adfer dyledion i fusnesau – P’un a ydych yn fusnes bach neu’n gorfforaeth fawr, rydym yn deall effaith anfonebau sydd heb eu talu. Gallwn eich helpu i adfer yr arian sy’n ddyledus i chi a diogelu sefydlogrwydd ariannol eich busnes. 

  • Adfer dyledion i unigolion – Os ydych yn unigolyn sy’n ceisio adfer arian sy’n ddyledus i chi, rydym yn cynnig cyngor clir ar eich opsiynau ac yn darparu cefnogaeth drwy’r broses. 

  • Anghydfodau dyledion– Os yw’r ddyled yn cael ei herio gan y dyledwr, gallwn eich cynrychioli mewn trafodaethau neu, os oes angen, gymryd camau cyfreithiol yn y llys.

Rydym yn deall bod adfer dyledion yn gallu bod yn her ariannol, a dyna pam rydym yn ceisio cynnig atebion cost-effeithiol wedi’u teilwra i’ch sefyllfa. Rydym yn cynnig strwythurau ffi tryloyw ac yn amlinellu’r costau o’r cychwyn cyntaf. Mewn rhai achosion, gallwn hefyd gynnig cytundebau “dim ennill, dim tâl”, gan eich galluogi i geisio adfer heb gostau ymlaen llaw.

Rydym yn deall pwysigrwydd gweithredu’n gyflym wrth adfer dyledion. Mae ein tîm yn ymrwymedig i weithredu’n brydlon ac yn effeithlon i adfer yr hyn sy’n ddyledus i chi, gan leihau’r amser a’r straen sy’n gysylltiedig â’r broses. Byddwn yn eich hysbysu yn gyson drwy’r broses gyfan, gan gynnig diweddariadau rheolaidd drwy  eich achos.

Cyfreithwyr

Huw Griffiths

Huw Griffiths

Cyfreithiwr/Cyfarwyddwr

Ian Williams

Ian Williams

Gweithredwr Cyfreithiol

Secret Link