Achosion Cyfreithiol a’r Gyfraith Sifil

Yng Nghwmni R Gordon Roberts Laurie, mae ein tîm profiadol yn ymdrin ag amrywiaeth eang o anghydfodau sifil, gan sicrhau bod eich achos yn cael ei reoli’n effeithlon ac yn broffesiynol. Beth bynnag yw gwerth eich  hawliad, rydym wedi ein hymrwymo i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i chi. 

Rydym yn arbenigo mewn materion gan gynnwys:

  • Tor contract – Datrys anghydfodau pan nad yw cytundebau wedi’u hanrhydeddu.
  • Anghydfodau adeiladu – Ymdrin ag anghydfodau sy’n ymwneud â gwaith adeiladu, diffygion, neu dor contractau. 

  • Anghydfodau cwmni a phartneriaeth – Cynghori busnesau ar wrthdaro mewnol, anghydfodau rhwng cyfarwyddwyr, ac ymholiadau diddymu. 

  • Adfer dyledion – Cynorthwyo  unigolion a busnesau i adennill taliadau sy’n ddyledus. 

  • Methdaliad– Cynghori ar fethdaliad, dilyniant a hailstrwythuro ariannol. 

  • Hawliadau esgeulustod – Erlyn iawndal am esgeulustod proffesiynol, personol, neu fusnes. 

  • Anghydfodau eiddo a ffiniau – Datrys anghydfodau ynghylch perchnogaeth tir, hawliau mynediad, a thresmasu. 

  • Anghydfodau ewyllys a phrofiant – Ymdrin ag ewyllysiau sy’n cael ei herio, anghydfodau ystadau, a hawliadau o dan Ddeddf Etifeddiaeth (Darpariaeth ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975. 

Rydym bob amser yn ystyried  dulliau ymarferol a chost-effeithiol fel negodi a chyfryngu (mediation) lle bo’n briodol. Fodd bynnag, os bydd angen gweithredu’n gyfreithiol, byddwn yn eich cynrychioli gyda gofal ac arbenigedd. 

Ffioedd Tryloyw a Chyfleoedd Ariannu

O’r cychwyn cyntaf, byddwn yn darparu dadansoddiad clir o’n ffioedd, a fydd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd trwy gydol eich achos. Gyda chyfreithwyr ar wahanol lefelau profiad, rydym yn cynnig cyfraddau cystadleuol sy’n addas i gymhlethdod eich mater. Mewn achosion penodol, gallwn hefyd ystyried cytundebau “dim ennill, dim ffi,” yn dibynnu ar natur yr anghydfod. 

Cyfreithwyr

Huw Griffiths

Huw Griffiths

Cyfreithiwr/Cyfarwyddwr

Ian Williams

Ian Williams

Gweithredwr Cyfreithiol

Secret Link