Ysgariad a Gwahanu
Yng nghwmni R Gordon Roberts Laurie rydym yn deall bod tor-perthynas yn gallu bod yn brofiad emosiynol iawn ac yn anodd. Ein nod yw tywys cleientiaid drwy’r broses hon gyda chydymdeimlad, gan sicrhau bod eich buddiannau’n cael eu blaenoriaethu tra’n lleihau straen ac ansicrwydd.
Mewn achosion o ysgariad, gwahanu, neu ddiddymu partneriaeth sifil, gall fod dryswch ynghylch hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolion dan sylw. Mae ein Tîm Cyfraith Deulu yn cynnig cyngor arbenigol ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys anghydfodau eiddo, trefniadau plant, a’r opsiynau ariannol sydd ar gael i chi.
Materion Eiddo ac Ariannol: Un o’r agweddau mwyaf cymhleth pan yn ysgariad a gwahanu yw datrys materion ariannol ac ymdrin ag anghydfodau ynghylch eiddo. Rydym yn gweithio’n ddiwyd i helpu ein cleientiaid ddod o hyd i atebion, gan sicrhau bod eiddo, asedau, a phensiynau’n cael eu rhannu’n deg, tra’n diogelu’ch dyfodol cyllidol. Mae ein dull yn canolbwyntio ar drafodaethau adeiladol, gyda’r nod o gyflawni’r canlyniadau gorau posibl heb orfod troi at achosion llys dadleugar.
Fodd bynnag, os bydd angen camau llys, rydym yn gwbl barod i’ch cynrychioli a sefyll dros eich buddiannau gorau. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd datrysiad clir a theg, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniad mwyaf ffafriol i chi.
Trefniadau Plant: Pan fo plant yn rhan o’r broses, mae eu lles yn hollbwysig. Rydym yn darparu cyngor ar drefniadau plant, gan gynnwys trefniadau byw a chyswllt gyda rhieni. Mae ein tîm yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud er budd gorau’r plant, gan geisio cytundebau cytûn lle bynnag y bo modd. Os bydd anghydfod yn codi, rydym yma i’ch tywys drwy’r broses gyfreithiol i sicrhau datrysiad sy’n canolbwyntio ar les eich plant.
Partneriaethau Sifil: Rydym hefyd yn cynorthwyo cleientiaid gyda diddymu partneriaeth sifil, gan gynnig yr un gefnogaeth ac arbenigedd ag a wnawn gyda phrosesau ysgaru a gwahanu. P’un a ydych yn gwahanu oddi wrth bartner mewn partneriaeth sifil neu’n delio ag achosion cyfreithiol cymhleth, rydym yma i gynnig cyngor clir a chefnogol.
Cyngor a Chefnogaeth Gyfreithiol wedi’i Deilwra: Mae pob achos ysgariad a gwahanu yn unigryw, ac rydym yn darparu cyngor cyfreithiol wedi’i deilwra i weddu i’ch amgylchiadau unigol. Ein nod yw datrys materion yn gytûn ac yn effeithlon, gan ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau teg tra’n darparu cefnogaeth gyfreithiol ac emosiynol drwy gydol y broses.
Cyfreithwyr

John Rhys Cwyfan Hughes
Cyfarwyddwr / Cyfreithiwr