Prisiau

Pan fyddwch chi, fel cleient, eisiau neu angen cyngor, byddwn yn darparu prisiau clir, tryloyw ac hawdd eu deall ar ddechrau’r trafodiad. Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig i bob cleient eu bod yn gwybod ac yn deall y gost sy’n gysylltiedig â’r gwaith cyfreithiol yr ydych wedi gofyn inni ei wneud ar eich rhan. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd materion sy’n effeithio arnoch chi, eich teulu, eich gwaith, eich busnes a’ch cartref; byddwn yn ymdrin â phob mater mewn modd proffesiynol a chost-effeithiol.

Mae ein holl gyfreithwyr naill ai’n Gyfreithwyr cymwysedig neu’n cael eu goruchwylio gan Gyfreithwyr cymwysedig a phrofiadol. Fel rhan o’n hymrwymiad i chi, rydym yn nodi manylion ynghylch sut rydym yn codi tâl am rai mathau o waith. Mae hon yn broses y mae’n ofynnol inni ei chyflawni gan y corff proffesiynol sy’n ein rheoleiddio, sef yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Efallai nad ein prisiau ni yw’r isaf na’r rhataf sydd ar gael; yn hytrach, mae ein prisiau’n adlewyrchu’r ffaith bod y gwaith yn cael ei wneud gan Gyfreithwyr profiadol a chymwysedig, neu gan unigolion sy’n cael eu goruchwylio’n agos gan Gyfreithwyr.

Rydym ar gael i gyfarfod a thrafod materion wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Yn y tudalennau sy’n dilyn, rydym yn nodi canllaw i’n prisiau a’r camau sy’n debygol o gael eu cymryd mewn perthynas â Thrawsgludo Eiddo, sef prynu a gwerthu eiddo preswyl, Ail-forgeisi, Profiant a Gweinyddu Ystadau, Adfer Dyledion a Materion Cyflogaeth.

Nid yw’r wybodaeth a ddarparwn ynghylch costau yn ddyfynbris. Fe’i darperir er gwybodaeth yn unig. Mae ein hamcangyfrifon o amser a’r camau sydd i’w cymryd mewn math penodol o drafodiad wedi’u bwriadu i roi syniad i chi o’r broses, yn hytrach nag i egluro beth fydd yn digwydd mewn unrhyw achos penodol. Pan fyddwch yn gofyn inni wneud gwaith ar eich rhan, byddwn yn darparu gwybodaeth sy’n benodol i’ch achos chi. Byddwn hefyd yn anfon llythyr atoch chi fel ein cleient yn nodi’r hyn yr ydym wedi cytuno arno gyda chi, yr hyn y byddwn yn ei wneud ar eich rhan, ein telerau a’r gost o wneud hynny.

Casglu Dyledion a Cyflogaeth

Secret Link