Anafiadau Personol
Os ydych wedi dioddef anaf, rydym yma i ddarparu cyngor clir a syml ynglŷn â’ch hawliad posibl. Gallwn drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb i drafod eich sefyllfa ac asesu’r tebygolrwydd o lwyddiant. Bydd ein cyfreithwyr profiadol yn eich arwain drwy bob cam o’r broses, gan sicrhau eich bod yn deall eich opsiynau a’ch hawliau o’r cychwyn cyntaf. Os cytunwn i ymgymryd â’ch achos, byddwch bob amser yn gwybod pa gyfreithiwr cymwys sy’n gyfrifol am eich hawliad, a bydd gennych fynediad uniongyrchol atynt drwy gydol y broses.
Ar ddechrau eich hawliad, byddwn yn trafod y gwahanol opsiynau ariannu sydd ar gael i chi, gan gynnwys cytundebau “dim ennill, dim tâl”. Os mai dyma’r ffordd orau ymlaen, byddwn yn defnyddio telerau Cymdeithas y Gyfraith, sy’n sicrhau cydbwysedd teg rhwng buddiannau cleientiaid a chyfreithwyr mewn achosion anafiadau personol.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i gleientiaid sydd wedi dioddef anafiadau mewn amryw o amgylchiadau, gan gynnwys:
-
Damweiniau traffig ffyrdd – Boed hynny fel gyrrwr, teithiwr, cerddwr neu feiciwr.
-
Damweiniau yn y gwaith – Gan gynnwys llithro, baglu, disgynf, ac anafiadau a achosir gan offer diffygiol.
-
Esgeulustod meddygol – Os ydych wedi dioddef oherwydd gofal neu driniaeth o safon isel.
-
Hawliadau atebolrwydd cyhoeddus – Anafiadau a gafwyd mewn mannau cyhoeddus, el siopau, parciau neu ffyrdd.
-
Damweiniau angheuol – Cefnogi teuluoedd y rhai sydd wedi colli anwyliaid yn drasig oherwydd damwain.
Rydym yn deall yr effaith gorfforol, emosiynol ac ariannol y gall anafiadau personol eu cael, a dyna pam rydym yn gweithio’n ddiflino i sicrhau’r iawndal dyledus i chi. Yn ogystal ag iawndal ariannol, byddwn hefyd yn sicrhau eich bod yn cael mynediad at driniaeth feddygol briodol, gwasanaethau adsefydlu, ac unrhyw gymorth arall sy’n briodol.
Os bydd angen mynd â’ch hawliad i’r llys, byddwn yma i’ch cynrychioli ac yn rhoi arweiniad clir ar y canlyniadau tebygol. Ein nod bob amser yw cyrraedd y canlyniad gorau posibl, boed hynny drwy drafodaeth neu weithredu drwy’r llys.
Drwy gydol y broses hawlio, byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd i chi ar statws eich achos, gan sicrhau eich bod yn cael eich hysbysu’n llawn ac yn rhan o bob penderfyniad. Rydym yn gweithio i wneud y broses gyfan mor rhwydd a distraen â phosibl.
Cyfreithwyr

Huw Griffiths
Cyfreithiwr/Cyfarwyddwr

Ian Williams
Gweithredwr Cyfreithiol