Atwrneiaeth Arhosol & Y Llys Gwarchod
Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn bwysig, yn enwedig o ran eich iechyd a’ch materion ariannol. Mae Atwrneiaeth Arhosol (LPA) yn eich galluogi i benodi aelod o’r teulu neu ffrind rydych yn ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau pwysig ar eich rhan os byddwch yn colli’r gallu meddyliol i wneud hynny yn y dyfodol, neu, yn achos materion eiddo ac ariannol, os byddwch yn teimlo na allwch neu’n cael anhawster i reoli’r materion hynny eich hun. Drwy trefnu Atwrneiaeth Arhosol, rydych yn cadw rheolaeth dros bwy sy’n rheoli eich materion ac yn sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu parchu pan fydd eu hangen fwyaf.
Mae dau fath o Atwrneiaeth Arhosol:
- Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer Eiddo a Materion Ariannol – Mae hyn yn galluogi’r atwrnai a benodir gennych i reoli eich cyllid, talu biliau, a delio â thrafodion eiddo.
- Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer Iechyd a Lles – Mae hyn yn rhoi’r awdurdod i wneud penderfyniadau ynghylch eich gofal iechyd, triniaeth feddygol, a’ch trefniadau byw.
Os yw anwylyd eisoes wedi colli’r gallu meddyliol i reoli ei faterion ei hun ac nad oes Atwrneiaeth Arhosol wedi’i sefydlu, gallwn eich arwain drwy’r broses o wneud cais i’r Llys Gwarchod. Mae’r broses gyfreithiol hon yn caniatáu penodi dirprwy i reoli ei faterion. Rydym yn deall y gall sefyllfaoedd o’r fath fod yn sensitif, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ymarferol gydag empathi a phroffesiynoldeb.
Rydym hefyd yn darparu cyngor mewn achosion lle mae anghydfodau’n codi ynghylch rheoli materion person sy’n agored i niwed, gan gynnwys ceisiadau dirprwyaeth sy’n cael eu herio neu bryderon ynghylch camddefnyddio arian.
Cyfreithwyr

Manon E. Roberts
Cyfarwyddwr

Huw Redvers Jones
Cyfarwyddwr / Cyfreithiwr

Huw Griffiths
Cyfreithiwr/Cyfarwyddwr

John Rhys Cwyfan Hughes
Cyfarwyddwr / Cyfreithiwr

Erin Lewis
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant

Alaw Lloyd-Jones
Cyfreithiwr dan Hyfforddiant

Catrin Gwyn
Cyfreithiwr

Llio Humphreys
Yn Dod yn Fuan