Landlord a Thenant
Rydym yn cynorthwyo a chynghori landlordiaid a thenantiaid, sicrhau bod tenantiaethau yn cychwyn ar sail gyfreithiol gadarn ac eglur. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu ystod eang o faterion tenantiaeth, o lunio ac adolygu cytundebau i gynghori ar hawliau, cyfrifoldebau, a datrys anghydfodau.
Rydym yn darparu arweiniad ar bob agwedd o gytundebau tenantiaeth, gan gynnwys tenantiaethau fyrddaliol sicr (ASTs), prydlesi masnachol, a thenantiaethau amaethyddol. P’un a ydych yn landlord yn ceisio diogelu eich buddsoddiad neu’n denant angen eglurder ar eich rhwymedigaethau, gallwn lunio cytundebau pwrpasol sy’n gweddu i’ch anghenion.
Mae ein gwasanaethau hefyd yn cynnwys cyngor ar ofynion cyfreithiol ar gyfer sefydlu tenantiaeth, megis cynlluniau diogelu blaendal, tystysgrifau perfformiad ynni (EPCs), cydymffurfiaeth diogelwch nwy a thrydan, a gwiriadau ar hawl i rentu. Rydym yn sicrhau bod landlordiaid yn bodloni’r holl rwymedigaethau statudol ac y gall tenantiaid ddeall eu hawliau yn llawn.
Os bydd problemau’n codi yn ystod tenantiaeth, gallwn ddarparu atebion ymarferol i helpu i ddatrys anghydfodau yn effeithlon. Mae hyn yn cynnwys delio â materion fel ôl-ddyledion rhent, tor contract, anghydfodau ynghylch cynnal a chadw eiddo, a hawliadau meddiant. Os bydd angen dadfeddiannu, rydym yn arwain landlordiaid trwy’r gweithdrefnau cyfreithiol cywir, gan gynnwys cyflwyno hysbysiadau o dan Adran 8 neu Adran 21 o Ddeddf Tai 1988.
Mae ein cyfreithwyr yn brofiadol wrth baratoi hysbysiadau, cyflwyno ceisiadau llys, a chynrychioli cleientiaid mewn gwrandawiadau llys. Rydym hefyd yn darparu cyngor ar adnewyddu prydlesi, adolygiadau rhent, taliadau gwasanaeth, a hawliadau am ddirywiad eiddo ar gyfer landlordiaid a thenantiaid masnachol.
Beth bynnag yw eich sefyllfa, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyngor clir ac ymarferol i ddiogelu eich buddiannau ac i sicrhau datrysiad teg.
Cyfreithwyr

Huw Redvers Jones
Cyfarwyddwr / Cyfreithiwr

Huw Griffiths
Cyfreithiwr/Cyfarwyddwr

John Rhys Cwyfan Hughes
Cyfarwyddwr / Cyfreithiwr