RGRL logo

R Gordon Roberts Laurie & Co

Incorporating T.R.Evans, Hughes & Co

RGRL logo

Toggle Menu

 

 

 

 

 

 

 

 

John Rhys Cwyfan Hughes

Rhys Cwyfan Hughes

Proffil

Astudiodd Rhys y Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Wedi hynny, mynychodd Goleg y Gyfraith, Christleton, Caer gan gwblhau'r cwrs addysg broffesiynol. Gwnaeth ei erthyglau gyda Chwmni T. R. Evans, Hughes, Caergybi cyn ei dderbyn fel Cyfreithiwr ar Restr y Cyfreithwyr ym mis Ebrill 1983. Parhaodd gyda Chwmni T. R. Evans, Hughes fel Cyfreithiwr cynorthwyol, gan ddod maes o law yn Bartner. Mae Rhys bellach yn un o Gyfarwyddwyr y Cwmni.

Mae Rhys yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n gyn Ysgrifennydd Cymdeithas Cyfreithwyr Gwynedd. Mae, ers mis Medi 2009, yn aelod o Gynllun Achredu Teulu Cymdeithas y Gyfraith. Mae’n gyn aelod o Banel Niwed Personol a Chyfreithiwr Troseddol ar Ddyletswydd Cymdeithas y Gyfraith. Yn ei amser hamdden, mae Rhys yn gitarydd brwd mewn amrywiol arddulliau ac yn gasglwr offerynnau cerdd.

Mae Rhys wedi ei leoli yn ein swyddfa yng Nghaergybi.

Meysydd arbenigol: